Eitemau unigryw - I gyd ar-lein

Croeso i'r Farchnad!

Wrth lansio busnes neu gynhyrchion newydd, mae'n bwysig profi'ch syniad busnes yn gyntaf gyda darpar gwsmeriaid.

Mae Marchnad Myfyrwyr Cymru yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion o bob sefydliad Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng Nghymru arddangos eu cynhyrchion / gwasanaethau wrth fanteisio ar farchnad bresennol o staff a chwsmeriaid myfyrwyr.

Mae Marchnad Myfyrwyr Cymru yn gweithredu fel cyfeiriadur sy'n cynnwys proffil y busnesau myfyrwyr / graddedigion er mwyn profi eu syniad busnes i fireinio eu cynnig neu ddysgu mwy am anghenion eu cwsmeriaid. I gael sylw ar Farchnad Myfyrwyr Cymru, cwblhewch y ffurflen.