Conscious Couture
Brand tecstilau a ffasiwn ecogyfeillgar ond ffasiynol yw Conscious Couture, a gaiff ei redeg gan fyfyriwr tecstilau yn ei thrydedd flwyddyn, sy’n arbenigo mewn sero-wastraff, lliwio naturiol ac uwchgylchu. Bydd ein casgliad Nadolig yn cynnwys cyfuniad o ategolion ffasiwn a thecstilau mewnol, o fandiau gwallt i orchuddion clustogau, yn ogystal â setiau rhodd – felly rhywbeth i bawb! Byddwn hefyd yn cydweithredu ag Emily Hacker Textiles i gynhyrchu casgliad Nadolig nifer cyfyngedig a wnaed â ffabrigau y’u lliwiwyd â llaw a phatrymau y’u dyluniwyd â llaw ar gyfer y cyffyrddiad personol.



